Enghraifft o: | etholiadau i Senedd Ewrop |
---|---|
Dyddiad | 25 Mai 2014 |
Dechreuwyd | 22 Mai 2014 |
Daeth i ben | 25 Mai 2014 |
Rhagflaenwyd gan | Etholiadau Senedd Ewrop |
Olynwyd gan | Etholiad Senedd Ewrop, 2019 |
Gwefan | http://www.elections2014.eu/en |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwng 22–25 Mai 2014 cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd. Dyma wythfed etholiad y llywodraeth ers 1979 a'r etholiad cyntaf lle gwelwyd pleidiau traws-Ewrop yn cynnig ymgeiswyr ar gyfer swydd Llywydd y Comisiwn. Yr ymgeiswyr (a'u gelwir weithiau â'r enw Almaeneg Spitzenkandidaten[1]) oedd: Jean-Claude Juncker ar ran Plaid Pobl Ewrop, Martin Schulz ar ran Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd, Guy Verhofstadt (Cynghrair y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop), Ska Keller a José Bové ill dau ar ran Plaid Werdd Ewrop ac Alexis Tsipras ar ran Plaid Asgell Chwith Ewrop.
Drwy Ewrop, roedd 751 o seddi angen eu llenwi. Yn etholiadau Ewrop, ystyrir Cymru yn un etholaeth seneddol.